Cofrestr Ymarferwyr Corff Proffesiynol
Cymru yw’r wlad gyntaf i fod wedi penodi ei Swyddog penodol ei hun. Gwnaed y penodiad hwn ar gefn cytundeb gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a drefnwyd gan SkillsActive, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Hamdden a Dysgu Egnïol.
Wedi’i benodi yn Ionawr 2006, mae John Byers yn gweithredu’r Gofrestr ar gyfer Cymru. Mae John, yn bennaf, yn arwain datblygiad y CSYP yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwaith hyrwyddo ymhlith cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant a sicrhau bod adnoddau priodol ar gael (yn cynnwys y rhai drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg). Nod sylfaenol y rôl yw codi’r safonau gwasanaeth y mae’r cyhoedd yng Nghymru’n eu derbyn gan eu swyddogion ymarfer proffesiynol. Drwy gyfrwng ein cytundebau gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) a Chyngor Chwaraeon Cymru (CChC), mae CSYP wedi’i sefydlu’n gadarn yng Nghymru. Penodwyd fel Swyddog cyntaf Cymru ar gyfer CSYP fis Ionawr ’i rôl yw hybu CSYP.
Ers ei sefydlu yn 2005, mae CSYP wedi tyfu a datblygu ledled Cymru ac ar hyn o bryd mae wrthi’n cyflwyno rhaglen waith a gefnogir gan Gyngor Chwaraeon Cymru. O ganlyniad i gynnydd mewn proffil, mae nifer yr hyfforddwyr cofrestredig sy’n gweithredu yng Nghymru wedi codi’n sylweddol ers 2005, gan gynnig gwasanaeth dwyieithog, addas a darparu cyngor diduedd ynghylch pob elfen hyfforddi yng Nghymru. Yn y pen draw, mae rôl Swyddog Cymru wedi cael ei chyllido gan LlCC a CChC er mwyn helpu i godi safonau’r gwasanaeth y mae’r cyhoedd yng Nghymru’n ei dderbyn gan swyddogion ymarfer proffesiynol.
Mae CSYP yng Nghymru wedi gwneud cynnydd sylweddol ers gyda nifer y swyddogion ymarfer cofrestredig wedi codi a lefel sgiliau aelodau CSYP Cymru wedi gwella. Yng Nghymru bellach mae’r ganran uchaf o aelodau lefel 3 ledled y 12 rhanbarth yn y DG. Bydd y swyddogion ymarfer proffesiynol hynod fedrus hyn yn chwarae rôl allweddol mewn rhoi sylw i’r targedau uchelgeisiol sydd wedi’u gosod yn Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol, ‘Dringo’n Uwch’.
O ganlyniad i’r gefnogaeth barhaus a ddarperir gan Gyngor Chwaraeon Cymru, yn y 12 rhanbarth yn y DG, mae swyddogion ymarfer proffesiynol hynod fedrus yn allweddol i wneud Cymru’n wlad fwy egnïol. Mae aelodau CSYP sy’n byw yng Nghymru’n derbyn manteision ychwanegol, fel cyfle i fynychu cynhadledd flynyddol, cyfathrebu penodol i Gymru a mynediad am ddim i’n Huwch-Gyfeirlyfr. Dim ond hyfforddwyr CSYP cofrestredig sy’n gymwys i weithio ar gynlluniau a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru, fel y Cynllun Cyfeirio at Ymarfer Cenedlaethol a’r ceisiadau ar gyfer Grantiau ar gyfer Mentrau Ymarfer.
Os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach, peidiwch ag oedi i gysylltu â Swyddog Cymru CSYP, , ar ei fanylion cyswllt isod ....
Enw Am Ddim yn yr Uwch-Gyfeirlyfr i Hyfforddwyr yng Nghymru
Mae ein rhaglen o weithio gyda Chyngor Chwaraeon Cymru’n galluogi i hyfforddwyr yng Nghymru gofrestru am ddim yn ein huwch-gyfeirlyfr newydd. Mae uwch-gyfeirlyfr CSYP yn cynnig cyfleuster i chwilio am aelodau’r CSYP drwy gyfrwng cymwysterau, lleoliad, enw a rhif cofrestru. Mae’r Uwch-Gyfeirlyfr yn cynnig i chi gyflwyno proffil byr amdanoch eich hun a manylion cyswllt (ffôn, e-bost a gwefan) felly gall y clientau gysylltu â chi’n uniongyrchol os ydynt angen eich cefnogaeth neu eich gwasanaeth. Mae hyn yn arbennig o fuddiol i athrawon ymarferion grŵp, hyfforddwyr personol a’r rhai gyda chymwysterau uwch.
I gofrestru ar gyfer cael eich enw yn yr Uwch-Gyfeirlyfr, cliciwch yma
Cysylltwch â Swyddog y Gofrestr yng Nghymru:
Cofrestr Ymarferwyr Corff Proffesiynol
Swyddog y Gofrestr yng Nghymru
Un Pentir Caspian
Glannau Caerdydd
Stryd Pierhead
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 4DQ
Ffôn: 02920 444150
E-bost: Wales@exerciseregister.org




